Fy mhythefnos yn Nhŷ Newydd
Gwe 2 Tachwedd 2018 / / Ysgrifennwyd gan Ceinwen Jones

Fy mhythefnos yn Nhŷ Newydd

Mae Ceinwen Jones yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor sy’n astudio gradd yn y Gymraeg. Daeth i Dŷ Newydd am bythefnos o brofiad gwaith ym mis Gorffennaf 2018. Isod, mae’n ysgrifennu am ei chyfnod yma.

______________________________________________________________________________________________________

Cyn i mi fynd ar brofiad gwaith i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wnes i erioed feddwl y buaswn i’n adeiladu tipi mewn llyfrgell tra oeddwn i yno, mae hynny’n sicr! Cefais gyfle i fynd i’r afael a thasgau amrywiol oedd yn rhoi blas i mi o’r gwahanol fath o swyddi oedd i’w canfod oddi fewn i bedair wal y swyddfa. Bûm yn cynorthwyo gyda gwaith marchnata, gan lunio posteri a defnyddio gwefannau cymdeithasol i hysbysebu’r cyrsiau di-ri sydd i’w cael yn y Ganolfan. Cefais gyfle hefyd i ymarfer fy sgiliau cyfieithu.

Braf oedd cael cyfle i weld beth oedd rhai o’r staff yn ei wneud tu allan i’r swyddfa, megis prosiectau gyda phobl ifanc yn y gymuned. Cefais gyfle i ymuno ag ambell gyfarfod gyda phartneriaid er mwyn trefnu gweithgareddau yn y gymuned fel rhan o gynllun Llên Pawb, a dysgu mwy am brosiectau creadigol fel Y Tipi Olaf – dyna pam oedd angen adeiladu tipi!

Roedd fy mhrofiad yn Nhŷ Newydd yn un buddiol iawn. Dysgais am nifer o brosiectau sy’n cael eu cynnal yn y gymuned nad oeddwn i erioed wedi sylwi arnynt o’r blaen. Yn ogystal, cefais gyfle i ymchwilio i nifer o wahanol bynciau a datblygu fy sgiliau gweinyddol. Braf oedd dod i adnabod staff Tŷ Newydd, a rhoi cyfle iddynt ddod i’m hadnabod innau hefyd. Roedd pawb mor groesawgar, a trist oedd gorfod gadael ar ôl pythefnos hyfryd.