Fy wythnos yn Nhŷ Newydd
Llu 17 Gorffennaf 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Ar fore Llun 17 Gorffennaf 2017 daeth wyneb newydd i Dŷ Newydd – Lois Elenid o Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Yma am wythnos brofiad gwaith oedd Lois, ac un o’i thasgau oedd cadw blog yn sôn am ei hwythnos…

Diwrnod cyntaf cynnes a chroesawgar ar fy mhrofiad gwaith yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy. Adeilad prydferth, hanesyddol yn llawn cyfleoedd a phrofiadau cyffrous i ymwelwyr.

Roedd heddiw yn agoriad llygad i lenyddiaeth Gymraeg a pha mor eang yw’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr. Roedd dysgu am gefndir a hanes Tŷ Newydd yn ddiddorol dros ben a chefais gyfle i ddod i adnabod yr adeilad a’r staff. Dros y diwrnodau nesaf, rwyf yn gobeithio ehangu fy sgiliau creadigol yn y Gymraeg a gorchfygu heriau a sialensiau newydd.

Roedd yr ail a’r trydydd  diwrnod hefyd yr un mor gyffrous. Cefais gyfle i fynd allan i dynnu lluniau o’r safle gan fynd am ginio gyda’r staff i Dyddyn Sachau. Fe wnes i fwynhau creu arddangosfa Cadwyn Heddwch a choffau’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Ar y trydydd diwrnod cefais gyfle i gofnodi ffurflenni adborth ar y feddalwedd Excel. Roedd darllen ceisiadau Sgwadiau Sgwennu  gan ddisgyblion ysgolion cynradd ac ysgrifennu adborth am y gwaith hefyd yn gyffrous a diddorol iawn.

Ar y pedwerydd diwrnod cefais gyfle i hysbysebu’r cyrsiau sydd ar gael yn Nhŷ newydd drwy amserlennu negeseuon trydar. Cefais hefyd gyfle i fynd allan hefo camera i dynnu lluniau o’r safle. Roedd yn brofiad mor braf a gwerth chweil cael mynd allan a gweld yr holl dirwedd, y mynyddoedd a’r byd natur o’n cwmpas. Roedd yn ddiddorol iawn ymchwilio i rai o gyn-fynychwyr cyrsiau’r gorffennol, a gwirio os ydynt wedi cyhoeddi llyfrau a hefyd ymchwilio i ganolfannau tebyg i Dŷ Newydd dros y byd.

Ar fy niwrnod olaf cefais gyfle i weithio gyda’r ddwy awdures enwog o’r enw Francesca Rhydderch a Mavis Cheek oedd wedi dod i Dŷ Newydd er mwyn tiwtora’r cwrs Ffuglen Fer neu Hir oedd yn cael ei gynnal dros gyfnod o bum diwrnod. Roedd yn brofiad arbennig cael cwrdd â’r awduron a chael ysgrifennu stori ddisgrifiadol. Oherwydd y profiad gwelais welliant ac ehangiad yn fy sgiliau creadigol yn fy  ngwaith a chredaf fy mod wedi gorchfygu ac wynebu llawer o heriau a sialensau newydd.

Ar y cyfan, credaf fy mod wedi cael profiad gwaith arbennig yn Nhŷ Newydd ac rwyf eisiau diolch yn fawr iawn i’r staff am y profiad, rwyf wedi mwynhau yn arw.

A diolch yn fawr iawn i tithau Lois am dy gwmni a dy gymorth drwy’r wythnos. Mwynha’r gwyliau haf a phob lwc gyda dy flwyddyn olaf yn yr ysgol.