Gardd Geiriau GISDA
Maw 23 Mai 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Gardd Geiriau GISDA

Tybed a glywsoch chi sôn am brosiect ein gardd wyllt y llynedd? Mae Tŷ Newydd, gyda chymorth pobl ifainc GISDA, wedi derbyn cyllid gan Tyfu’n Wyllt unwaith eto eleni er mwyn adfywio darn arall o erddi’r safle.

Mae’r prosiect ariannu yn cael ei arwain gan Erddi Botaneg Brenhinol Kew a’i gefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr.

Rhaglen pedair blynedd ydi Tyfu’n Wyllt er mwyn annog pobl i hau blodau gwyllt brodorol yn eu gerddi. Credant y gallwn, gyda’n gilydd, weddnewid a dod â lliw i’r mannau lle rydym ni’n byw: gan droi llecynnau nad oes neb yn gofalu amdanyn nhw’n noddfa i flodau a bywyd gwyllt.

Eleni, penderfynwyd y byddwn yn trawsnewid rhan arall o ardd Canolfan Tŷ Newydd er mwyn creu llecyn tawel i fyfyrio, ysgrifennu neu ymlacio, wedi ei hysbrydoli gan gysyniad ‘gardd zen.’ Wedi crafu pen ynglŷn ag enw’r ardd, dyma gytuno ar ‘Gardd Geiriau.’

Fore Llun 15 Mai 2017, daeth criw brwdfrydig o bobl ifanc GISDA draw i dorchi llewys yn yr ardd. Er gwaethaf y glaw, bu pawb yn brysur iawn yn palu a thyllu, gwagio’r ferfa byth a beunydd a thwtio a thocio’r gwrychoedd. I gael eistedd i lawr a chymryd hoe o’r gwaith corfforol, cafwyd wedyn weithdy ysgrifennu geiriau caneuon gyda’r bobol ifanc yng nghwmni’r cerddor Iwan Huws o’r band Cowbois Rhos Botwnnog.

Diolch yn fawr iawn i’r holl bobl ifanc ddaeth draw i helpu. Mae’r ardd yn werth ei gweld.

Dyma ychydig o luniau o’r gwaith: