Yn 2015, derbyniodd Llenyddiaeth Cymru grant cyfalaf hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud gwaith adnewyddu angenrheidiol i Dŷ Newydd. Fel rhan o’r gwaith, comisiynwyd darnau celf newydd wedi eu creu gan artistiaid lleol.
Cafodd y comisiwn cyntaf, sef bwrdd coffi i Lyfrgell Glyn Jones, ei greu gan y saer a’r artist Miriam Jones. Mae hi’n sôn am y broses o greu’r bwrdd coffi mewn blog blaenorol.
Cyrhaeddodd y ddau ddarn celf arall ychydig wythnosau yn ôl, sef mainc wedi ei gwneud o lechen a chadair fawreddog ar gyfer yr ardd gefn.
Gwaith yr artist Angharad Pearce Jones yw’r ddau ddarn ac maent wedi eu henwi ar ôl dau o lenorion amlycaf Cymru: Mainc Kate Roberts a Chadair R S Thomas. Gallwch ddysgu mwy am waith Angharad ar ei gwefan.
Diolch i’r holl artistiaid am eu gwaith ac i Cyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth.