Hud y Gynghanedd: Judith Musker Turner
Mer 7 Mehefin 2017 / Ysgrifennwyd gan Judith Musker Turner

Cefais fy hudo gan y gynghanedd yn syth pan y’i hesboniwyd i mi am y tro cyntaf yn yr ysgol. A minnau yn dod o deulu di-Gymraeg, roeddwn yn gwbl ddiarwybod o draddodiad y canu caeth tan ysgrifennodd yr athrawes ‘Mari aeth â llaeth i’r llo’ ar y bwrdd gwyn rhywbryd ym Mlwyddyn 10. Efallai fod y ffaith fy mod i’n cofio’r llinell honno o hyd yn dangos y fath argraff cafodd y cyflwyniad byr hwnnw i’r gynghanedd arnaf, a minnau dim ond yn hanner ddeall Cymraeg ar y pryd.

Deuthum ar draws hysbyseb ar gyfer cwrs cynganeddu Tŷ Newydd 2016 ar y we chwe mis ar ôl graddio, pan oeddwn i’n gweithio yn Llundain a cheisio dechrau gyrfa fel arlunydd tecstiliau. Ymddangosodd y cwrs cynganeddu fel cyfle i ailgynnau fy fflam greadigol a fy niddordeb mewn barddoniaeth, a hefyd fel cyfle i ddychwelyd i Gymru a’r Gymraeg.

Cyrhaeddais Dŷ Newydd heb allu ysgrifennu cymaint â’r gynghanedd lusg symlaf, a heb gael cyfle i siarad fawr o Gymraeg ers symud i Loegr yn 2011, a gadewais wedi ysgrifennu cywydd ddeuddeg llinell ac englyn, wedi ymdrochi’n llwyr mewn byd barddoniaeth Cymraeg ac yn benderfynol o ddychwelyd i Gymru cyn gynted â phosib.

Blwyddyn yn ddiweddarach ac rwy hanner ffordd drwy M.A. Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a drwy haelioni caredig Tŷ Newydd derbyniais ysgoloriaeth i’m galluogi i ddychwelyd i Dŷ Newydd ar gyfer y cwrs cynghanedd yn 2017. Eleni, fel llynedd, cymysgedd llwyr oeddem ni fel grŵp o ran ein cefndiroedd a’n cymhelliannau – rhai’n feirdd adnabyddus yn barod, eraill â diddordeb neu yrfa mewn meysydd gwahanol o’r celfyddydau fel drama neu gelf weledol. Heb amheuaeth, cael y cyfle i dreulio pum diwrnod cyfan yng nghwmni grŵp o bobl mor amryddawn a chyffrous, yn gynnwys ein tiwtoriaid bendigedig, Twm Morys ac Eurig Salisbury, yn trafod, dadlau, chwerthin, dysgu a chreu, yw’r peth sy’n gwneud cyrsiau Tŷ Newydd mor arbennig – ac mae’r ganolfan wedi ei sefydlu i hwyluso’r profiad. Mae’r tŷ a’r ardd yn baradwys fach sy’n edrych allan dros Fae Ceredigion, yn llawn hanes a chyfrinachau Cymreig ac encilion bach cysurus. Er bod yna ryw fath o strwythur i’r dyddiau – gweithdai awr a hanner mewn dau grŵp, y dechreuwyr a’r ‘mireinwyr’, sy’n cwmpasu’r pedair math o gynghanedd, y pedwar mesur ar hugain a bob math o bwyntiau arddull a manylion eraill – nid yw’r dysgu yn stopio ar unrhyw adeg, gan ein bod ni’n casglu o amgylch y bwrdd mawr yn yr ystafell bwyta rhwng pob gwers i fwynhau bwyd blasus wedi ei goginio gan Tony, y cogydd preswyl hyfryd.

Llifa’r oriau rhwng deffro ac amser swper mewn tonnau o sgyrsiau barddonol a llenyddol, sy’n parhau wedyn yn y llyfrgell gyda photeli o win neu Gwrw Llŷn, neu lawr yn Y Plu tan oriau man y bore. Teimlaf fy mod i wedi dysgu mwy mewn pedair noson ar gwrs cynganeddu (nid am farddoniaeth yn unig ond hefyd am hanes, cerddoriaeth, iaith, a hunaniaeth Gymreig a Chymraeg) nag y gallwn i ddysgu oddi wrth gant o lyfrau. Ac o’r ymddiddan hwn daw pethau pwysig a hardd: roedd chwech o’r saith ohonom ar y cwrs eleni’n ferched. Gan ystyried yr anghydbwysedd rhywiol sy’n dal yn bodoli ym marddoniaeth Gymru, roedd hyn yn arwyddocaol, ac roedd llawer o drafod am feirdd benywaidd cyfoes a hanesyddol. Ar y noson olaf, ar ôl Talwrn bywiog yn Y Plu, roeddem yn eistedd yn y llyfrgell, a holais y criw am fardd yr oeddwn wedi dod ar ei draws wrth ymchwilio i arwrgerddi yn ddiweddar – Morfydd Eryri, yr unig fenyw i ennill gwobr eisteddfodol fawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond doedd neb yn gwybod am ei stori hynod o gael ei magu gan ei chwiorydd yng Nghaergrawnt a Rhydychen, dysgu saith iaith yn rhugl, yn gynnwys y Gymraeg, yn cyfrannu fel cystadleuydd a beirniad i’r Eisteddfod Genedlaethol a bron yn cipio swydd fel y gadair gyntaf mewn ieithoedd modern ym Mhrifysgol Bangor yn 1884. Felly aethom ni ati, yn y fan a’r lle, i ysgrifennu cywydd iddi, a’i roi i gerddoriaeth a’i ganu gyda gitâr.

Ysgrifennais englyn am Dŷ Newydd llynedd ar y trên nôl i Lundain, heb gysgu am fwy na thair awr y nos trwy’r wythnos ac yn dioddef mor ddifrifol o ‘lid y gynghanedd’ nes na allwn i ddeall beth oedd pobl yn dweud pan gyrhaeddais orsaf Birmingham New Street – roedd y geiriau wedi’u malu’n sillafau annealladwy. ‘Yno’r hud a’r anrhydedd’ oedd y llinell olaf. Nid barddoniaeth fawr, ond mae’n adlewyrchu teimlad gwir: yn eistedd â grŵp o feirdd rhwng muriau o lyfrau Cymraeg yng nghanol y nos yn yr ystafell lle bu farw Lloyd George, a rhwng y chwerthin a’r canu yn atgyfodi o’i ebargofiant am funud cymeriad lliwgar o dapestri ein hanes, yn defnyddio traddodiad sy’n dros fil mlwydd oed – dyna’r hud, a’r anrhydedd.