Sgriptio ac Addasu
Llu 1 Hydref 2018 / / Ysgrifennwyd gan Anita Myfanwy

Mae Anita Myfanwy yn wyneb cyfarwydd iawn i ni yma yn Nhŷ Newydd. Mae’n mynychu nifer o gyrsiau ac yn aelod brwd o Glwb Ysgrifennu Tŷ Newydd. Ysgrifennodd flog i ddathlu penblwydd cyntaf y clwb, a gallwch ei ddarllen yma. Dyma gofnod blog arall ganddi yn sôn am y cwrs unnos Sgriptio ac Addasu yng nghwmni Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn. 

______________________________________________________________________________________________________

Dwi newydd ddychwelyd ar ôl treulio pen wythnos gwych arall yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dwi wedi bod yn mynychu cyrsiau yn y Ganolfan ers blynyddoedd maith a does yr un cwrs wedi fy siomi. Cefais amser gwych a chyfle i ymlacio yng nghwmni pobl a oedd yn rhannu’r un diddordeb â fi mewn awyrgylch cartrefol, clyd a diogel.

Cyrhaeddais y ganolfan fore Sadwrn ac es yn syth i’r llyfrgell lle cefais groeso cynnes gan y tiwtoriaid Gwyneth Glyn a Fflur Dafydd.  Roeddwn wedi cyfarfod â Gwyneth ar gwrs yn Nhŷ Newydd flynyddoedd maith yn ôl pan oeddem ein dwy yn cael ein hyfforddi gan un o’m harwyr llenyddol, Mihangel Morgan ac Alan Martell. Roeddwn wedi gweld Gwyneth o bryd i’w gilydd ers hynny a hithau bob amser yn barod ei gwên. Ond dyma’r tro cyntaf i mi gyfarfod â Fflur. Ymddangosodd hithau yr un mor glên â Gwyneth. Daeth aelodau’r dosbarth  i mewn i’r ystafell yn eu tro o wahanol rannau o Gymru.  Roedd yn wych clywed y gwahanol tafodieithoedd yn ymdoddi i’w gilydd wrth i ni yfed ein paneidiau te a choffi. Yn syth teimlais bod y dosbarth a’r tiwtoriaid wedi creu perthynas da â’i gilydd.

Ar ddechrau’r sesiwn cyntaf cawsom y dasg o ysgrifennu monolog am ein henwau.  Mwynheuais y dasg hwnnw’n fawr iawn a fe’m synnwyd gan yr amrywiaeth teimladau a oedd gan y dosbarth tuag at eu henwau. Roedd y darnau a ysgrifennwyd gan y dosbarth yn amrywiol, diddorol, difyr ac yn grefftus iawn.  Yn wir, roedd yn  amlwg o’r cychwyn bod gan bawb ddawn ysgrifennu arbennig.

Yna, cefais y cyfle i ymfalchio ym mro fy mebyd, sef Nebo, wrth i ni ysgrifennu pwt am ein hardal genedigol. Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd bod un o’r preswylwyr wedi aros yn fy hen gartref y noson gynt.  Roedd hynny’n gryn testun trafod rhyngom ac yn gyfle i mi hel atgofion melys am fy mhlentyndod.

Yn ystod y penwythnos cafwyd cyfleoedd i edrych a dadansoddi darnau o waith teledu Fflur a gosodwyd nifer o dasgau ysgrifennu gan y tiwtoriaid. Roedd Gwyneth a Fflur yn arbennig o dda am roi adborth trylwyr ac adeiladol i’n gweithiau. Teimlais fel fy mod mewn lle diogel i drafod fy ngwaith ac roedd gan bawb barch mawr at ei gilydd.

Cafwyd gwledd a oedd wedi ei baratoi gan Tony i swper. Mae’r profiad o eistedd o gwmpas bwrdd mawr hir y Neuadd bob amser yn fy nghyffroi.  Yno mae pawb yn ymlacio ac yn sgwrsio’n hamddenol am bob math o bethau. Ar ôl sesiwn olaf y diwrnod aeth y criw i Dafarn y Plu i sgwrsio ac i ymlacio ymhellach.

Cyn ffarwelio ar y Sul cafodd y dosbarth gyfle i drafod eu gwaith yn unigol gyda Gwyneth a Fflur.  Unwaith eto cafwyd adborth teg ac anogaeth gan y ddwy.

Diolch o galon i Gwyneth, Fflur ac i bawb a fynychodd y cwrs am wneud y pen wythnos yn un mor arbennig. Llongyfarchiadau, Tŷ Newydd, am lwyddo i drefnu cwrs mor ddiddorol a llwyddiannus. Teimlaf fy mod yn agosach at gyrraedd fy nod i fod yn llenor.

‘A fuasech yn dod yn ôl i Ganolfan Ysgrifenu Tŷ Newydd?’ gofynnodd y ffurflen adborth…

Buaswn yn bendant, unrhyw adeg. Rwyf eisoes wedi clustnodi cwrs arall.