• Llun:  Kristina Banholzer
Sut beth ydi Cwrs Undydd?
Mer 4 Mawrth 2020 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Byddwch yn cael eich croesawu gan aelod o staff Tŷ Newydd a chael cyfle i weld y tŷ a mwynhau paned cyn dechrau ar y diwrnod. Bydd y gweithdai yn amrywio o un cwrs i’r llall, ond yn gyffredinol bydd cyfle i ysgrifennu, rhannu syniadau a gwrando ar gyngor profiadol y tiwtor. Rydym yn estyn croeso i bob gallu ysgrifennu yma yn Nhŷ Newydd ac yn annog awduron newydd a’r rhai mwy profiadol i ddod yma i ddatblygu sgiliau ymhellach neu i ddechrau o’r dechrau.

 

Bydd cyfle i chi fynd ati i ysgrifennu a derbyn adborth ar eich gwaith yn ogystal â chlywed syniadau eich cyd-fynychwyr. Ni fydd mwy nag 14 ar unrhyw gwrs undydd. Cewch gyfle i ddefnyddio holl ofod ac adnoddau’r tŷ gan gynnwys:

Y Neuadd – gofod da ar gyfer gweithdai ysgrifennu:

Y Llyfrgell – gofod anffurfiol a chartrefol:

A sawl ystafell arall sy’n addas ar gyfer gweithio ar dasgau ysgrifennu. Mae digonedd o lefydd parcio ar y safle, neu mae gwasanaeth bws yn rhedeg drwy bentref Llanystumdwy o gyfeiriad Pwllheli neu o gyfeiriad Porthmadog.

Dyma flas o amserlen arferol ar gyfer ein cyrsiau undydd:

Cyrraedd rhwng 10.45 am – 11.00 am

  • Cyfle i gael paned a chwrdd ac ambell un o’r mynychwyr cyn i’r cwrs ddechrau

Cwrs yn cychwyn am 11.00 am

  • Bydd y tiwtor yn egluro’n union sut strwythr fydd i’r diwrnod. Bydd y tiwtor yn rhoi llawer o gyngor ar sut i wella eich crefft ysgrifennu. Efallai y bydd tasgau yn cael eu gosod yn ystod y dydd, ac y bydd amser i chi ysgrifennu ar eich pen eich hun am gyfnod.

Cinio am 1.00 pm

  • Gweinir cinio ysgafn i bawb yn y gegin. Efallai y cewch hanner awr o ginio, efallai y cewch awr. Bydd y tiwtor yn penderfynu ac yn rhoi gwybod yn ystod y sesiwn flaenorol

Prynhawn

  • Parhau gyda’r cwrs a chyfle o bosib am adborth un-i-un gyda’r tiwtor

Gorffen erbyn 4.30 pm

  • Ffarwelio a chychwyn am adref

Porwch drwy ein Cyrsiau Undydd yma.