Ymunodd Eben â ni ar Ynys Enlli ar gyfer cwrs arbennig dan ofal yr awdur a’r ecolegydd, Elinor Gwynn ar ddiwedd Mai. I ddarganfod mwy am ei brofiad darllenwch ymlaen…
Roedd hi bron yn dair blynedd ar ddeg ers y tro diwethaf i mi gamu i mewn i gatamaran melyn Colin, a gwibio draw dros y swnt i Enlli, a minna’ ar drothwy troi’n tri-deg y tro yma.
“Dwyt ti heb newid dim” medda’ fi wrth Colin.
“Na chditha chwaith” meddai ynta’, y celwyddgi.
Run fath oedd y wefr wrth i ni ddod rownd i’r cafn – rhai ohonom ni yn y gwch am eu tro cyntaf, a rhai (fel fi) wedi bod sawl tro o’r blaen. Roedd y daith yma’n garreg filltir arbennig i mi gan mai’r dryddedd daith yw’r un sy’n dod a fi i bererindod sydd i fod yn gyfystyr â un daith i Rufain i weld y pab.
Roedd’na gymaint yn gyfarwydd am y lle – teimlo fel rhyw fath o gymundeb efo fi fy hun ‘nol mewn cyfnod pan oeddwn i’n cael siarad Cymraeg yn amlach, a pan oeddwn i’n ysgrifennu’n y Gymraeg yn amlach hefyd (bob dydd!). Roedd y ffaith fod gymaint o’r garfan oedd yn rhan o’r cwrs naill ai’n siarad Cymraeg (ac yn hynod frwdfrydig am gyfle i gael gwneud!) neu ymhell yn eu siwrnai o ddysgu yn golygu fod yr wythnos fel rhyw fath o gwrs trochi i fi – roedd dewrder a chreadigrwydd fy nghyd-sgwenwyr didwyll yn ysbrydoliaeth fawr i mi wrth i mi geisio mynd i nofio eto yn nyfroedd nerfus byd creadigol y Gymraeg (i fi). Mae hyder gramadegol yn wahanol i hyder creadigol, ac roedd yn awyrgylch arbennig i fagu’r ail. Roedd gweld angerdd pobl a fabwysiadodd hi at yr iaith yn rym pwerus arna i o Ddyffryn Nantlle, lle glaniodd yr iaith ar fy nglin i wedi ei lappio mewn papur lliwgar a’i chlymu â rhuban.
Fe ges i’r pleser mawr o gael rhannu cartref cysurus Tŷ Nant gyda chriw bach ddaeth yn deulu dros-dro clos iawn – fi a Kristen (o’r Almaen) y cogyddion, a Roni a Megan a oedd yn olchwyr llestri o fri. Fe fuodd y system yma o rannu’r llafur domestig yn sail i wythnos bleserus ag utopiaidd a greodd awyrgylch hyfryd i gynnal sgyrsiau hir, diddorol, amlgenhedlaethol, o flaen yr aelwyd yn y min nos, a thros frecwast wrth i Kristen brofi ei chramwythen (crumpet!) gyntaf erioed. Fel sgwennwr weddol ifanc (neu rywun sy’n dechrau datblygu ei grefft, o leiaf) mae’r galondid a ges i o’r sesiynau rhannu o gwmpas y bwrdd yn Llofft Nant neu wrth gerdded rhwng un lle a’r llall, wedi bod yn aruthrol o lesol.
Roedd natur (wrth reswm) ynysig yr ynys a dull arbennig Elinor o feithrin awyrgylch hamddenol, chwareus, yn amod perffaith i mi arbrofi fel sgwennwr. Arbrofi â barddoniaeth, â rhythm, â phortreadau o bethau gwyllt, od, a fforio fy mhen i fy hun yn absenoldeb dylanwad llechwraidd y we, cyfryngau cymdeithasol, ebyst gwaith, a phopeth arall.
Allwn i fod wedi ysgrifennu blog llawer hirach am harddwch Enlli, ei chymeriad a chymeriad ei chymeriadau oll – o Moss, sef yr unig gi yn y byd (hyd y gwn i) sy’n mynd a phobl am dro, i’r camau bras drwy wymon trwm i nofio ym mhorth Solfach efo’r morloi, i halo borffor ysgafn clustog fair oedd yn orchudd mor rhyfeddol dros y lle.
Roedd yn gyfnod cynhyrchiol i mi fel sgwennwr – orffenais i braidd i ddim ond cwpl o haikus trwsgwl, ond fe blanwyd lot o hadau, ac ambell un wedi cael cyfle i flaguro ers dychwelyd i’r tir mawr – bydd colofn fer am Enlli yn y Guardian ar y 9fed o Orffenaf, a gobeithio bydd mwy yn gweld golau dydd ymhen amser. Dwi’n dyheu am gael bod ‘nol tu hwnt i wefrau’r wifi eto, i ynys lle mae fy ffôn symudol i’n pydru ar waelod bag yn lle pydru fy ymwybod i. Gobeithio na fydd hi mor hir eto cyn i fi gael mynd – dwi’n hynod ddiolchgar i fam Ruth Seavers, Martha, am greu a chefnogi’r ysgoloriaeth a wnaeth hi’n bosib i mi gael mynd, ac i Lenyddiaeth Cymru am y cyfle i gael mynychu’r cwrs hynod yma, ac am drefnu’r cwrs ei hun (a’r bocsus bwyd anferth a ddaeth efo ni ar y gwch!).