Bardd arobryn yw Menna Elfyn, a dramodydd sydd wedi cyhoeddi 15 cyfrol o farddoniaeth, yn ogystal â nofelau i blant, libretti ar gyfer cyfansoddwyr niferus, a dramâu ar gyfer radio a theledu yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau dwyieithog megis Murmur (Bloodaxe Books, 2012) (a ddyfarnwyd iddi Poetry Book Society Recommended Translation) a Bondo (Bloodaxe Books, 2017). Cyfieithwyd ei gwaith i ugain o ieithoedd. Cyhoeddwyd llên-gofiant Cennad yn 2018 (Bloodaxe Books, 2018), a Cwsg (Gomer, 2019), cyfrol o ryddiaith greadigol yn 2019, a enillodd Wobr Cymru Greadigol. Cyhoeddwyd Tosturi (Mercy) yn 2022 gan Gyhoeddiadau Barddas. Mae’n Athro Emerita gyda Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant ac yn Lywydd Wales PEN Cymru. Yn 2022, derbyniodd Menna Wobr Chomondeley gan y Society of Authors am ei chyfraniad amhrisiadwy i farddoniaeth Gymreig, yma yng Nghymru, o fewn y DU ac yn rhyngwladol.
Barddoniaeth yw’r ateb
Mae’r cwrs penwythnos hwn yn agored i ddechreuwyr ac unigolion sydd ag ychydig o brofiad o farddoni eisoes. Bydd y cwrs yn gyfle i gymryd hoe o’r byd a’i bethau ac i edrych ar sut mae barddoniaeth yn medru gwneud y byd yn well lle. Beth sydd gan fardd i’w roi i’r byd? Nawr, yn fwy nag erioed mae angen barddoniaeth arnom. Bydd y cwrs hwn yn gyfle i feddwl am y broses o ganfod yr egin syniad a chreu cerdd, sut i weithio arni ac yna ei mireinio a’i golygu yng nghwmni dau fardd adnabyddus a llafar, Menna Elfyn ac Elinor Wyn Reynolds. Bydd cyfle i feirdd ddod o hyd i’w lleisiau hwy ac i deimlo’n hyderus yn eu mynegiant. Dewch i ymuno â’r criw. Y mae barddoniaeth yn gymaint mwy na’i maintioli ac fel na ddywedodd Waldo Williams erioed:
‘Beth yw cerdd? Cael neuadd fawr mewn cyfyng eriau.’
Tiwtoriaid

Menna Elfyn

Elinor Wyn Reynolds
Bardd, golygydd ac awdur yw Elinor Wyn Reynolds. Wedi ei geni yn y Rhondda, cafodd ei magu yng Nghaerfyrddin ac mae hi bellach wedi dychwelyd i fyw i Sir Gâr. Mae hi wedi rhoi sawl casgliad o gerddi a straeon at ei gilydd, megis Llyfr Bach Priodas (Gomer) a Llyfr Bach Nadolig (Barddas) ac yn 2019, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Gwirionedd (Gwasg y Bwthyn).