Cwrs Undydd: Ffurfio Nofel

Sad 13 Gorffennaf 2024
Tiwtor / Llwyd Owen
Ffi’r Cwrs / O £35 y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Cymraeg

Maen ‘nhw’ yn dweud bod gan bawb nofel yn llechu ynddynt. Ond mae meddwl am syniad yn un peth, tra bod datblygu’r syniad yn nofel gyfan yn stori dra gwahanol. Yn y cwrs undydd hwn, bydd Llwyd Owen yn rhannu ei brofiadau ef o ddatblygu egin syniad yn nofel orffenedig gyda chi, yn ogystal ac ambell i reol sy’n ganolog i’r ffordd mae e’n gweithio. Gan ddefnyddio’i nofelau ei hun fel man cychwyn, bydd yr awdur o Gaerdydd yn eich rhoi ar ben y ffordd ac yn esbonio sut gall un golygfa neu gymeriad dyfu i fod yn stori gynhwysfawr.


Felly, os oes gennych chi lyfr yn llawn nodiadau, neu ddim mwy na breuddwyd o droi cymeriad neu olygfa gofiadwy yn rhywbeth mwy sylweddol, mynychwch y cwrs hwn a gadewch i awdur profiadol eich helpu i droi ffantasi feddyliol yn realiti lenyddol.

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, ac i’r rheiny sydd eisoes â pheth profiad. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2024 yn addas i chi, <cysylltwch â ni> am sgwrs anffurfiol.

 

Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Llwyd Owen

Mae Llwyd Owen wedi cyhoeddi pymtheg nofel ers 2006, gan gynnwys Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa, 2006), a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007, Iaith y Nefoedd (Y Lolfa, 2019), a gyrhaeddodd restr fer yr un gystadleuaeth yn 2019, a saith nofel drosedd yng nghyfres barhaus Gerddi Hwyan, sy’n dilyn hynt a helynt heddlu a thrigolion y dref ddychmygol sydd wedi’i disgrifio fel “Cwmderi ar crac” gan un adolygydd. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae Llwyd yn gyfieithydd ac yn diwtor ysgrifennu creadigol profiadol. Mae’n byw yng Nghaerdydd, tref ei febyd, gyda’i wraig, ei blant a’i gi. 

 

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811