Cwrs Undydd: Ysgrifennu Llyfr Gair-a-Llun

Sad 21 Medi 2024
Tiwtor / Angharad Tomos
Ffi’r Cwrs / O £35 y pen
Genres / DarlunioFfuglenYsgrifennu i Blant a Phobl Ifainc
Iaith / Cymraeg

Ymunwch ag Angharad Tomos am ddiwrnod o ysgrifennu i blant a phobl ifanc. Yn enwog am ei chyfres bytholwyrdd i blant sydd wedi ei lleoli yng Ngwlad y Rwla, mae Angharad wedi troi ei llaw yn ddiweddar at lenyddiaeth i oedolion ifanc. Byddwn yn cychwyn y diwrnod drwy edrych ar arddull rhai o’n awduron llyfrau plant a phobl ifanc gorau i’n hysbrydoli. Byddwn yn archwilio themâu perthnasol i blant a phobl ifanc, yna byddwn yn rhoi cynnig ar greu ein cymeriadau ein hunain a’u gosod mewn straeon gwreiddiol. Cwrs addas i ddechreuwyr a rhai mwy profiadol. Os oes gennych stori ar y gweill, dewch â hi!

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, ac i’r rheiny sydd eisoes â pheth profiad. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2024 yn addas i chi, <cysylltwch â ni> am sgwrs anffurfiol.

 

Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Angharad Tomos

Angharad Tomos yw un o hoff awduron plant Cymru. Hi greodd cyfres hynod boblogaidd Rwdlan ac yn 1986 enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol Llipryn Llwyd o’r gyfres honno. Derbyniodd y wobr am yr eilwaith yn 1993 am Sothach a Sglyfath, ac yn 2009, cyflwynwyd Tlws Mary Vaughan Jones iddi am ei chyfraniad sylweddol i lenyddiaeth plant. Mae hi hefyd yn awdur toreithiog i oedolion. Enillodd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd yn 1982, a Medal Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn 1991 am Si Hei Lwli ac yna yn 1997 am Wele'n Gwawrio. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae wedi troi at ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc. Cyhoeddwyd Darn Bach o Bapur am hanes y Beasleys yn 2014, yna Paent yn 2016 am yr arwisgo a'r ymgyrch beintio, ac i ddathlu canrif ers rhoi'r bleidlais i ferched, cyhoeddwyd Henriett y Syffrajet yn 2018. Cyhoeddir ei gwaith gan Y Lolfa a Gwasg Carreg Gwalch. 

 

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811