Mae si ar led bod y dyn ei hun yn y cyffiniau yn ystod Encil y Nadolig. Efallai y byddaf yn galw heibio i archwilio'r simnai ac i flasu mins peis Tony. Ond yn anffodus fyddwch chi ddim yn fy ngweld i - gan fy mod yn swil iawn.
Encil Nadolig
Dyma gyfle i gael dianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i noddfa greadigol – i’r lleoliad heddychlon hwnnw lle gallwch fynd i orffen ysgrifennu eich nofel, neu ddim ond darllen a synfyfyrio efallai? Bydd ein hencilion, yn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd, yn cynnig y ddihangfa berffaith i chi. Gallwch fynd am dro ar hyd y Lôn Goed, cerdded i’r traeth i chwilio am ysbrydoliaeth, a rhannu syniadau dros swper gyda’ch cyd-letywyr. Bydd pawb â’i ystafell ei hun – a bydd prydau bwyd cartref yn cael eu paratoi ar eich cyfer.