Mae Julia Forster wedi gweithio ym myd cyhoeddi ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n Gyd-gyfarwyddwr Being A Writer i The Literary Consultancy ac mae’n gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus i weisg annibynnol o’i chartref yng nghanolbarth Cymru. Ar hyn o bryd mae Julia yn cwblhau Diploma mewn Hyfforddi, gan arbenigo mewn gweithio gydag awduron. Nofel i bobl ifanc oedd ei llyfr diweddaraf, a gyhoeddwyd yn 2016 gyda Atlantic Books o’r enw What a Way to Go ac yn ddiweddar derbyniodd wobr gan The Society of Authors am gasgliad barddoniaeth y mae’n ei gwblhau. Fel newyddiadurwr, bardd a beirniad llenyddol, mae ei gwaith wedi ymddangos yn Agenda, PN Review, Resurgence, New Welsh Review, Poetry Wales, The Author a The Telegraph.
www.julia-forster.com
@WriterForster
Encil yr Haf
Yn ystod yr encil hwn, bydd yr awdur, yr hyfforddwr a’r arbenigwr mewn datblygu awduron Julia Forster yn cynnal gweithdai a chyfres o sesiynau un-i-un dewisol bob prynhawn, rhwngdydd Mawrth a dydd Iau. Bydd y boreau yn cael eu cadw yn rhydd ar gyfer ysgrifennu ac ymarferion creadigol unigol pob awdur. Ar y noson gyntaf, bydd Julia yn hwyluso sgwrs grŵp er mwyn i chi ddod i adnabod eich cyd-awduron, a bydd cyfle i rannu eich gwaith creadigol ar y nos Iau pe dymunwch.
Mae’r encil hwn yn ddelfrydol ar gyfer egin awduron ac awduron sydd â pheth profiad, unrhyw un sy’n dymuno neilltuo amser penodol i’w hysgrifennu mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol, a chymryd rhan mewn gwaith grŵp a/neu derbyn sesiwn un-i-un gydag arbenigwr o’r diwydiant cyhoeddi. Fel Cyd-gyfarwyddwr Being A Writer ar gyfer The Literary Consultancy, mae Julia yn adnabyddus am feithrin gofodau diogel, cefnogol a llawn hiwmor i awduron archwilio’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir wrth gwblhau darnau o waith creadigol.
Mae’r sesiynau un-i-un 20 munud o hyd wedi’u dylunio i helpu i ddatrys problemau a thrafod unrhyw heriau, naill ai ym myd eich ymarfer creadigol neu eich datblygiad proffesiynol. Ar ôl archebu eich lle ar yr encil, gwahoddir awduron i rannu samplau byr o’u hysgrifennu ymlaen llaw, er mwyn i Julia allu paratoi ar gyfer eich sesiwn unigol.
Tiwtor
