Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol

Gwe 18 Awst 2023 - Sul 20 Awst 2023
Tiwtoriaid / Rebecca F. John & Susan Stokes-Chapman
Ffi’r Cwrs / O £250 - £350 y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Ymunwch â Rebecca F. John, awdur a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Costa, a Susan Stokes-Chapman, awdur a gyrhaeddodd restr gwerthwyr gorau The Sunday Times, i archwilio byd cyffrous ysgrifennu hanesyddol. Byddwn yn treiddio i’r gorffennol i chwilio am wybodaeth am bobl ac achlysuron go iawn, boed mewn pytiau o doriadau papur newydd, dyddiaduron neu lythyrau teulu sydd wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, neu efallai o ddigwyddiadau a chymeriadau mwyaf adnabyddus hanes. Gallai’r straeon go iawn hyn fod yn ysbrydoliaeth i chi i greu gwaith ffuglen newydd difyr, ond i ba raddau y mae gennych chi drwydded greadigol i ail-ddychmygu’r gorffennol? Trwy weithdai grŵp, byddwn yn trafod y cwestiwn hwn a mwy.

Yn ystod y penwythnos, byddwch yn darganfod ffyrdd effeithiol o greu cymeriadau argyhoeddiadol, siapio bydoedd credadwy, a phlotio a chyflymu eich naratif. Bydd pob gweithdy yn eich arwain – trwy drafod, ymarferion ysgrifennu, ac ystyried theori (ysgafn) – i fagu hyder yn eich ysgrifennu a datblygu sgiliau a thechnegau newydd a fydd yn eich galluogi i adrodd eich straeon yn eich llais unigryw eich hun.

Tiwtoriaid

Rebecca F. John

Magwyd Rebecca F. John mewn pentref bychan ar arfordir de Cymru. Hi yw awdur y casgliad o straeon byrion, Clown’s Shoes (Parthian, 2015); tair nofel i oedolion, The Haunting of Henry Twist (Serpent’s Tail, 2017), The Empty Greatcoat (Aderyn, 2022), Fannie (Honno, 2022); ac un nofel i blant The Shadow Order (Firefly, 2022). Mae hi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Nofel Gyntaf Costa a Gwobr Stori Fer EFG  The Sunday Times. Bydd ei nofel nesaf i oedolion, Vulcana, yn cael ei chyhoeddi gan Honno ym mis Mai 2023. Mae’n byw yn Abertawe gyda’i phartner, eu mab, a’u cŵn.

Susan Stokes-Chapman

Magwyd Susan Stokes-Chapman yn ninas Sioraidd hanesyddol Lichfield, Swydd Stafford, ond mae bellach yn byw yng ngogledd-orllewin Cymru. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan raddio gyda BA mewn Addysg a Llenyddiaeth Saesneg ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae ei nofel gyntaf Pandora (Harvill Secker, 2022) yn ail ddehongliad llac o'r chwedl Roegaidd, Pandora's Box, wedi'i gosod yn Llundain yn yr oes Sioraidd, ac mae'n adrodd hanes yr artist gemwaith uchelgeisiol Dora Blake a'i chyfarfyddiad â fâs hynafol y mae ei hewythr gormesol yn awyddus iawn i'w gadw yn gyfrinach. Daeth y nofel yn un o werthwyr gorau The Sunday Times adeg ei chyhoeddi, ac yn 2020 roedd ar restr fer Gwobr Ffuglen Lucy Cavendish 2020 ac ar restr hir Gwobr Bath Novel Award. www.susanstokeschapman.com  

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811