Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb yng Nghymru a fyddai’n elwa o gwrs yn Nhŷ Newydd i wneud hynny, waeth beth fo’u hincwm neu lefel eu profiad. Mae gweithio gydag awduron ar incwm isel wedi’i nodi fel un o flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru, ynghyd ag awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac awduron ag anableddau neu salwch (meddyliol a chorfforol). Ein nod yw creu mynediad cyfartal a theg i arloesedd artistig a datblygiad proffesiynol, a chynorthwyo datblygiad lleisiau newydd ac amrywiol.
Elusen yw Llenyddiaeth Cymru, ac mae’r holl incwm a godir drwy gyrsiau Tŷ Newydd yn mynd yn ôl i gadw’r ganolfan a’i gweithgareddau i fynd, a thuag at brosiectau llenyddol eraill ledled Cymru.
Fel rhan o’n hymrwymiad i wneud Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a’i chyrsiau mor hygyrch â phosibl, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gynnig ysgoloriaeth ar gyfer pob cwrs a raglennwyd fel rhan o’r calendr. Dyfernir ysgoloriaeth i awduron dethol nad ydynt yn gallu fforddio’r ffi cwrs llawn yn dilyn proses ymgeisio syml.
Mae swm yr ysgoloriaeth yn amrywio hyd at £250 yn ddibynnol ar hyd y cwrs: £250 ar gyder cyrsiau wythnos o hyd, neu £150 ar gyfer cyrsiau penwythnos.
Cyn gwneud cais am ysgoloriaeth, gofynnir i chi ystyried:
Os yw ffi’r cwrs yn parhau i fod yn rhwystr i chi gofrestru, a’ch bod chi dros 18 mlwydd oed ac yn byw yng Nghymru, gallech fod yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaeth. I ymgeisio, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Mae modd darllen holl Delerau ac Amodau’r cynllun ysgoloriaeth, yma.
Mae’n hanfodol cyflwyno cais am ysgoloriaeth cyn cofrestru ar gwrs. Ni allwn ystyried cais am ysgoloriaeth ar ôl i chi gofrestru. Nodwch, os gwelwch yn dda, na allwn warantu cefnogaeth ariannol i bawb oherwydd nifer uchel y ceisiadau ddaw i law.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar gyfer ysgoloriaeth yn 2026 yw 5.00 pm, dydd Gwener 27 Chwefror 2026, gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud gan banel o staff Llenyddiaeth Cymry o fewn y 7 diwrnod gwaith yn dilyn hynny.
Cliciwch yma i ymgeisio.
Ysgoloriaeth Lenyddol Ruth Seavers
Yn ogystal â chymorth ar gyfer ffioedd cyrsiau, mae gennym swm cyfyngedig o arian wedi’i glustnodi i gefnogi awduron ag anghenion mynediad ychwanegol. Mae’r cyllid hwn ar gyfer awduron y byddai eu hanghenion mynediad yn arwain at gostau ychwanegol, na fyddai’n cael eu hysgwyddo gan awdur heb yr anghenion hynny. Os teimlwch y byddech yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. Fel canllaw, byddwn yn cefnogi treuliau fel costau teithio y tu hwnt i daith safonol, er enghraifft y gwahaniaeth pris rhwng tacsi cwbl hygyrch a phris safonol ond, yn anffodus, nid oes gennym y modd i dalu costau mawr, er, os oes angen i chi ddod â gweithiwr cefnogol gyda chi ar gwrs preswyl, gallwn ddarparu llety a lluniaeth heb unrhyw gost ychwanegol). I gael rhagor o wybodaeth am fynediad, ewch i’r adran hygyrchedd ar ein gwefan a chofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Ychwanegir at y gronfa ysgoloriaethau yn flynyddol drwy fentrau codi arian megis diwrnodau agored, boreau coffi, ac yn y blaen. Gwerthfawrogir haelioni cyfeillion yn fawr, ac os hoffech gyfrannu at y gronfa ysgoloriaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org