Ysgolion a Phrifysgolion

Mae Tŷ Newydd yn trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl ac undydd i ysgolion cynradd, uwchradd, prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill. Mae pob cwrs yn unigryw.

Rydym yn gweithio gyda’r athrawon i drefnu cyrsiau wedi eu teilwra yn arbennig,  gan gynnig dewis o genre, cynnwys a thiwtoriaid addas ar gyfer y grŵp.

Mae Tŷ Newydd yn cynnig awyrgylch ysbrydoledig, yr amser, gofod a hunan-hyder i’r bobl ifainc archwilio eu potensial fel awduron. Byddant yn derbyn cyngor a mentora gan awduron proffesiynol ac yn mwynhau cyfleoedd i deimlo, ymateb a rhannu drwy ysgrifennu.

Bydd yna sesiynau grŵp, sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid, darlleniadau, a chyfle i’r disgyblion a’r myfywyr weithio’n unigol ar eu hysgrifennu.

Mae pawb yn byw gyda’i gilydd yn Nhŷ Newydd ar gyrsiau preswyl, ac mae’r awyrgylch yn hamddenol ac yn anffurfiol. Mae’r disgyblion a’r myfyrwyr yn helpu eu hunain i frecwast a chinio ac yn helpu, fel rhan o dîm, i baratoi un pryd fin nos i weddill y grŵp. Gallwn gysgu hyd at 20 o ddisgyblion neu fyfyrwyr.

Am fwy o wybodaeth, ac i drefnu cwrs i’ch ysgol neu’ch prifysgol chi, cysylltwch â ni: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811.

Ein Cyrsiau

Ffuglen Hanesyddol
Llu 19 Hydref 2026 - Gwe 23 Hydref 2026
Tiwtoriaid / Susan Stokes-Chapman, A. J. West
Darllenydd Gwadd / Carolyn Jess-Cooke (Digidol)
Gweld Manylion
Encil Di-diwtor yr Hydref
Llu 26 Hydref 2026 - Gwe 30 Hydref 2026
Gweld Manylion
Encil Folding Rock: ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau
Llu 9 Tachwedd 2026 - Gwe 13 Tachwedd 2026
Tiwtoriaid / Kathryn Tann, Robert Harries
Darllenydd Gwadd / Darllenydd Gwadd
Gweld Manylion