Cystadlaethau
Maw 31 Ionawr 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Ydych chi’n ysgrifennu, boed yn y Gymraeg neu’r Saesneg? Ydych chi’n awyddus i gystadlu gyda’ch gwaith? Efallai y bydd un o’r cystadlaethau yma’n apelio. Mae pob un ag elfennau gwahanol, ond un peth sy’n debyg rhwng y tri yw’r cyfle i ennill cwrs preswyl yn Nhŷ Newydd.

Ewch amdani!

 

Cystadleuaeth Rialto: Cystadleuaeth Barddoniaeth Natur a Lle 2017

Beirniad: Kathleen Jamie

Dyddiad cau: 1 Mawrth 2017

Gwobrau: £1000, £500, cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a theithiau tywys yng nghwmni Mark Cocker a Nick Davies

Pris ymgeisio: £6 am y gerdd gyntaf ac yna £3.50 am bob cerdd ychwanegol

Sut i ymgeisio: Gallwch ymgeisio trwy glicio ar y ddolen yma.

 

Cystadleuaeth New Welsh Review: Gwobrau New Welsh Writing

Beirniad: Gwen Davies a David Lloyd

Dyddiad cau: 1 Mawrth 2017

Gwobrau: £1000, cytundeb e-gyhoeddi, cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, penwythnos yn Llyfrgell Gladstone a mwy.

Pris ymgeisio: Rhad ac am ddim

Sut i ymgeisio: Gallwch ymgeisio trwy glicio ar y ddolen yma.

 

Cystadleuaeth Celfyddydau Anabledd Cymru: Cystadleuaeth Farddoniaeth 2017

Beirniad: Sian Northey

Dyddiad cau: 30 Ebrill 2017

Gwobr: Cwrs Preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Pris ymgeisio: Rhad ac am ddim

Sut i ymgeisio: Gallwch ymgeisio trwy glicio ar y ddolen yma.

 

Gŵyl Farddoniaeth Ledbury: Cystadleuaeth Farddoniaeth 2017

Beirniad: Fiona Sampson MBE

Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2017

Gwobr: Cwrs Preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Pris ymgeisio: £5 am y gerdd gyntaf ac yna £3.50 am bob cerdd ychwanegol

Sut i ymgeisio: Gallwch ymgeisio trwy glicio ar y ddolen yma.

 

Pob lwc!