Mae’r Ymddiriedolaeth, sy’n elusen gofrestredig, yn cefnogi arhosiadau preswyl gan artistiaid proffesiynol, awduron, cyfansoddwyr ac eraill am gyfnodau byr oddi cartref ar gyfer gwyliau, adferiad neu amser gweithio tawel, trwy roi grantiau i helpu i dalu am fwyd a llety.
Mae 6 bwrsariaeth ar gael, pob un gwerth £150, a gellir eu defnyddio tuag at arhosiad yn Encil Awduron Nant cyn diwedd Mawrth 2025.
I wneud cais am fwrsariaeth o £150, cwblhewch y ffurflen gais fer hon erbyn 5.00 pm, dydd Mawrth 30 Ebrill 2024. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ein penderfyniad, boed yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, erbyn 3 Mai.
Am ragor o wybodaeth, neu i siarad ag aelod o staff am y cyfle hwn, e-bostiwch tynewydd@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni ar 01766 522 811.