logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Amdanom ni
    • Tŷ Newydd
    • Y Tŷ
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Ysgolion
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Amdanom ni
    • Tŷ Newydd
      • Tîm Tŷ Newydd
      • Oriel
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Dewch o hyd i ni
    • Y Tŷ
      • Hanes
      • Llety
        • Opsiynau Llety
      • Hygyrchedd
      • Llogi Tŷ Newydd
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Ysgolion
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Llun:  Emyr Young

Cymorth Ariannol

Mae gan lenyddiaeth wreiddiau dwfn yn y cysyniad o ryddid mynegiant. Serch hynny, mae gwir ryddid yn ddibynnol ar gydraddoldeb cyfleoedd a chynrychiolaeth deg. O’r herwydd, nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynychu un o gyrsiau Tŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’u incwm neu lefel o brofiad.

Mae awduron ar incwm isel wedi eu hadnabod fel un o dri grŵp penodol y bydd Llenyddiaeth Cymru yn canolbwyntio arnynt gyda’n gwaith. Y ddau grŵp arall yw unigolion o liw, ac unigolion sydd ag anableddau neu salwch (corfforol neu feddyliol). Ein bwriad yw i greu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb

Elusen yw Llenyddiaeth Cymru, ac mae’r holl incwm a gaiff ei godi drwy gyrsiau Tŷ Newydd yn mynd yn ôl i sicrhau fod y ganolfan a’i gweithgareddau yn parhau, ac i ariannu gweithgareddau llenyddol eraill ledled Cymru.

 

Encil Awduron Nant

Mae encilio yn ein bwthyn, Nant, sydd wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn cynnig amser, gofod ac awyrgylch dawel i ganolbwyntio ar ysgrifennu, ymhell o brysurdeb bywyd bob dydd. Rydym yn cydnabod nad yw ein encilion yn fforddiadwy i bawb, ac y gall teithio i Dŷ Newydd fod yn her ychwanegol i rai o ran y gost. Felly, os na fedrwch fforddio encil yn Nant, cysylltwch â ni i holi am ffurflen gais syml.

Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac yn anffodus ni allwn ddyfarnu ysgoloriaeth i bawb.

 

Cyrsiau Preswyl

Cynigir ysgoloriaethau ar gyfer unigolion a all fod angen cymorth ariannol, ond mae cyfyngiadau ar y gronfa. Felly cyn gwneud cais am ysgoloriaeth, gofynnir i chi ystyried:

  • Dewis ystafell rhatach – mae tri haen o ystafelloedd gwahanol, oll yn amrywio mewn pris, ond yr un mor gyfforddus.
  • Talu am ffioedd eich cwrs mewn rhandaliadau, heblaw am y blaendal na ellir ei ddychwelyd (£100 sy’n ddyledus wrth archebu).

Gallwch wneud cais am gynllun talu mewn rhandaliadau cyn archebu cwrs. Gofynnwn yn garedig i chi dalu 75% o’r gost lawn cyn cyrraedd Tŷ Newydd. Dyma fraslun o gynllun talu ar sail cost ystafell i’w rannu ar gwrs wythnos o hyd arferol (heb y blaendal o £100):

Os yw ffi’r cwrs yn parhau i fod yn rhwystr i chi gofrestru, yna fe’ch gwahoddir i ymgeisio am ysgoloriaeth o rhwng £50 – £200 drwy gysylltu â ni i holi am ffurflen ysgoloriaeth. Mae’n hanfodol cyflwyno cais am ysgoloriaeth cyn cofrestru ar gwrs. Ni allwn ystyried cais am ysgoloriaeth ar ôl i chi gofrestru.

Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac yn anffodus ni allwn ni ddyfarnu ysgoloriaeth i bawb.


Ariannu Ysgoloriaethau

Ychwanegir at y gronfa ysgoloriaethau yn flynyddol drwy fentrau codi arian megis diwrnodau agored, boreau coffi, ac yn y blaen. Gwerthfawrogir haelioni cyfeillion yn fawr, ac os hoffech gyfrannu at y gronfa ysgoloriaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:

01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Dewislen

  • Cyrsiau ac Encilion
  • Mathau o Gyrsiau
  • Beth i'w ddisgwyl
  • Cymorth Ariannol
  • Ysgolion

Ein Cyrsiau

Encil Yoga y Gwanwyn


Wedi gwerthu i gyd

Tiwtor / Richard Fowler
Gweld Manylion
Y Sgil i ‘Sgwennu’n Gryno
Sad 6 Mai 2023
Tiwtor / Sioned Erin Hughes
Gweld Manylion
Dihuno’r Dychymyg: Pwysigrwydd Barddoniaeth ac Ysgrifennu er Lles
Llu 15 Mai 2023 - Gwe 19 Mai 2023
Tiwtoriaid / clare e. potter, Jill Teague
Darllenydd Gwadd / Patrick Jones
Gweld Manylion

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Crëwyd gan Creo
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo