Llety
Fel hen adeilad a safle rhestredig Gradd II*, mae ystafelloedd Tŷ Newydd yn amrywio o ran maint, lleoliad a chyfleusterau. Wrth archebu lle ar gwrs preswyl, gallwch ddewis y math o lety a ffafrir – a fydd, gobeithio, yn gwneud ein cyrsiau’n fforddiadwy i fwy o westeion, tra hefyd yn sicrhau gofod a chysur ychwanegol i’r rhai sy’n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy arbennig.
Mae modd i chi ddewis pa fath o ystafell wrth archebu, ac os oes mwy nag un math o’r ystafell yna ar gael, byddwn yn dyrranu’r ystafelloedd ar hap. Os ydych yn ymweld gyda ffrind neu bartner ac yn dymuno rhannu ystafell, cysylltwch â ni am opsiynau. Hefyd, os nad ydych yn gweld y math o lety sydd orau gennych fel opsiwn wrth geisio archebu cwrs, cysylltwch â ni i drafod.
Ystafell fawr, gwely maint brenin, gydag ystafell ymolchi en-suite (yn y prif dŷ)
Mae’r ddwy ystafell en-suite yma wedi eu lleoli yn y prif dŷ, un, Ystafell Lloyd George (2) oedd gynt yn eiddo i’r cyn Brif Weinidog, a’r llall, Ystafell Frances (1) yn eiddo i Frances Stevenson, ei ail wraig.
- Ystafell Frances
- Ystafell Frances / Frances’ Room
- En-suite Frances
- Ystafell Lloyd George
- Ystafell Lloyd George / Lloyd George’s Room
- En-suite Lloyd George
Ystafell fawr, gwely maint dwbl, gydag ystafell ymolchi en-suite (yn y prif dŷ)
Mae Portmeirion (4) a Clough (5) yn ddwy ystafell en-suite sydd yn llenwi pob hanner o’r atig, ac yn cynnwys ystafelloedd ymolchi en-suite wedi eu hadnewyddu yn ddiweddar. Gwlau dwbl sydd yn yr ystafelloedd hyn.
- Ystafell Portmeirion / Portmeirion Room
- Ystafell ymolchi
- Ystafell Clough / Clough’s Room
- Ystafell ymolchi / En-suite
Ystafell fawr, gwely maint dwbl, gydag ystafell ymolchi en-suite (ym mloc y tiwtoriaid)
Ystafelloedd mawr yw Ystafell Gillian (9) ac Ystafell Dwyfor (10), ym mloc y tiwtoriaid. Mae gan y ddwy ystafell ymholchi en-suite, un gyda chawod a’r llall gyda bath a chawod. Nodwch: dim ond yn ystod encilion di-diwtor mae’r ystafelloedd yma ar gael, neu ar gyrsiau ble mai dim ond un tiwtor sydd.
- Gillian
- Gillian
- Gillian
- En-suite
- Dwyfor
- Dwyfor
- En-suite
Ystafell ganolig ei maint, gwely maint brenin, gydag ystafell ymolchi en-suite (yn Hafoty, ein adeilad allanol)
Mae ystafell en-suite Yr Ardd (14) wedi’i lleoli yn yr hen anecs. Mae ganddi wely dwbl mawr, a’i mynedfa ei hun yn edrych dros yr ardd wyllt a’r cae defaid cyfagos.
- Ystafell Yr Ardd
- En-suite
Ystafell fach, gwely maint dwbl, gydag ystafell ymolchi i’w rannu (yn y prif dŷ)
Mae ystafell wely Dafydd y Garreg Wen (6) ar y llawr gwaelod yn y prif dŷ, ac yn agos i’r gegin. Ystafell ysgafn gyda gwely dwbl a desg fawr, ac mae ganddi ystafell ymolchi a rennir drws nesaf iddi (rhannu gydag un darpar westai, gweler yr ystafell isod drws nesaf). Mae’r Ystafell Ddirgel (3) hefyd yn y prif dŷ, gyda desg a gwely dwbl isel. Ystafell glyd, nenfwd isel gyda nodweddion hardd, mae ganddi fasn a thoiled. Mae ystafell ymolchi a rennir ar gael i gael mynediad i’r gawod.
- Ystafell Ddirgel
- Ystafell Ddirgel
- 1/2 En-suite
- Ystafell Dafydd y Garreg Wen
- Ystafell ymolchi
- Ystafell ymolchi / Shared Bathroom
Ystafell ganolig ei maint, gwely maint brenin, gydag ystafell ymolchi i’w rannu (yn Hafoty, ein adeilad allanol)
Mae’r Coetiws (7) yn yr anecs newydd, ac mae ganddi wely dwbl mawr. Ystafell hardd yn yr haf yn arbennig, mae’r ystafell yn rhannu ystafell wlyb gydag un darpar westai (union drws nesaf i’r ystafell).
- Coetiws
- Ystafell ymolchi (i’w rhannu) / Shared Bathroom
Ystafell fach, gwely sengl, gydag ystafell ymolchi en-suite (yn Hafoty, ein adeilad allanol)
Mae Cae Llo Brith (13) wedi ei leoli yn yr hen anecs – ac mae ganddi wely sengl, desg ysgrifennu, cwpwrdd dillad a golygfa fendigedig dros gaeau amaethyddol. Mae yna en-suite yn yr ystafell hon.
- Cae Llo Brith
- En-suite
Ystafell fach, gwely maint dwbl, gydag ystafell ymolchi i’w rannu (yn Hafoty, ein adeilad allanol)
Mae Lôn Goed (11) ac R. S. Thomas (12) yn ddwy ystafell debyg – y ddwy â gwely dwbl, desg ysgrifennu a chwpwrdd dillad, a’r ddwy yn rhannu ystafell ymolchi fodern.
- Ystafell 11
- R. S. Thomas
- Ystafell ymolchi. Shared Bathroom.
Ystafell fach, gwely sengl, gydag ystafell ymolchi i’w rannu (yn Hafoty, ein adeilad allanol)
Mae’r Llaethdy (8) yn ystafell braf yn Hafoty, ac yn ystafell hygyrch. Mae yma wely sengl, sofa, cwpwrdd dillad a desg. Mae’r ystafell ymolchi drws nesaf, ac mae’r ystafell ymolchi honno yn ystafell wlyb, hygyrch, ac yn cael ei rannu gyda’r gwestai sydd yn aros yn ystafell 7.
- Llaethdy
- Ystafell ymolchi 7 ac 8
- Ystafell ymolchi (i’w rhannu) / Shared Bathroom
Bwthyn Encil Awduron Nant
Mae ein bwthyn encil, Nant, yn aml yn cael ei archebu gan awduron unigol ar wahân i’n rhaglen gwrs. Fodd bynnag, os yw Nant yn digwydd bod ar gael yn ystod eich cwrs, a’ch bod awydd aros yn rhywle mwy moethus – cysylltwch â ni am ragor o fanylion. Nodwch fod Nant yn cynnwys ystafell ymolchi sydd yn cael ei rhannu rhwng y ddwy ystafell wely.
Mae Nant yn fwthyn dwy ystafell wely gydag ardal gegin-fwyta gyfforddus gyda’i ddrws ffrynt ei hun.










































