Yma cawn encilio o’r byd,
ar ororau’r tir a’r tonnau;
mewn tŷ hen, ar odre hanes,
a’r coed yn anwes amdano.
Ffydd (Tŷ Newydd yn 30), gan Ifor ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022)
“Os caf gyfle i ddod i Dŷ Newydd, rwy’n gwneud popeth yn fy ngallu i’w dderbyn gan wybod y byddaf yn dod oddi yno yn gyfoethocach llenor o lawer.” Mererid Hopwood, Archdderwydd
Mae Ffrindiau Tŷ Newydd yn ein helpu i gynnal ein tŷ hanesyddol rhestredig Gradd II* a’r tiroedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Tŷ Newydd ac yn cefnogi ein rhaglen drwy’r flwyddyn.
Mae’n fraint gofalu am Dŷ Newydd, gyda’i hanes cyfoethog, ei bensaernïaeth unigryw, a’i leoliad ysbrydoledig, a chroesawu’r nifer fawr o awduron a gwesteion sy’n ymweld bob blwyddyn i ddatblygu eu crefft. (Cewch ragor o wybodaeth am hanes hynod ddiddorol y tŷ yma.)
Ond fel adeilad hynafol, daw Tŷ Newydd â chyfrifoldebau, ac mae’n costio dros £400,000 bob blwyddyn i gadw’r drysau ar agor, i gynnal yr adeiladau a’r tiroedd, ac i gynnal ein rhaglen.
Mae incwm yn sgil ffioedd cyrsiau a llogi’r lleoliad yn mynd yn bell tuag at ateb y gost hon, ac mae pob tro rydych yn archebu cwrs neu encil yn helpu i gynnal Tŷ Newydd. Ond rydym yn ymrwymedig i gadw ein ffioedd mor isel â phosibl i sicrhau’r mynediad ehangaf, ac mae hyn yn golygu bod diffyg ariannol hyd yn oed gyda rhaglen sy’n gwerthu allan. Bob blwyddyn mae angen i ni godi £110,000 ychwanegol drwy roddion a grantiau i ateb y diffyg ariannol hwn.
Os ymunwch â’n Ffrindiau, byddwch yn gwneud cyfraniad hollbwysig, gan helpu i sicrhau bod Tŷ Newydd yn parhau i ysbrydoli a meithrin awduron o Gymru ac o’r tu hwnt. Fel Ffrind, byddwch yn derbyn Blaenoriaeth Archebu, ein Cylchlythyr Chwarterol, ynghyd â chynigion arbennig, a chynghorion ysgrifennu ac ysgogiadau gan diwtoriaid Tŷ Newydd.
Cewch ragor o wybodaeth isod a gallwch ymuno ar-lein, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad gyda ni’n uniongyrchol am y Ffrindiau neu gyfleoedd eraill i gefnogi Tŷ Newydd a Llenyddiaeth Cymru, cysylltwch drwy e-bost neu dros y ffôn:
Catrin Slater: catrin.slater@llenyddiaethcymru.org | 01766 522811

Ffrind Efydd
Rhodd flynyddol o £45
Rhodd fisol o £4
• Cyfle i flaen-archebu cyrsiau Tŷ Newydd (wythnos cyn lansio’r rhaglen)
• Cylchlythyron chwarterol gyda newyddion diweddaraf Tŷ Newydd
• Cynigion arbennig a gostyngiadau gan ein partneriaid llenyddol a chyhoeddi

Ffrind Arian
Rhodd flynyddol o £95
Rhodd fisol o £8
•Cyfle i flaen-archebu cyrsiau Tŷ Newydd (wythnos cyn lansio’r rhaglen)
•Cylchlythyron chwarterol gyda newyddion diweddaraf Tŷ Newydd
• Cynigion arbennig a gostyngiadau gan ein partneriaid llenyddol a chyhoeddi
• Awgrymiadau ac ysgogiadau ysgrifennu gan diwtoriaid cyrsiau Tŷ Newydd
Ffrind Aur
Rhodd flynyddol o £200
Rhodd fisol o £17
• Cyfle i flaen-archebu cyrsiau Tŷ Newydd (wythnos cyn lansio’r rhaglen)
• Cylchlythyron chwarterol gyda newyddion diweddaraf Tŷ Newydd
• Cynigion arbennig a gostyngiadau gan ein partneriaid llenyddol a chyhoeddi
• Awgrymiadau ac ysgogiadau ysgrifennu unigryw gan diwtoriaid Tŷ Newydd
• Tocynnau am ddim i chi a’ch gwestai i fynychu Seremoni Llyfr y Flwyddyn, Gorffennaf 2026