Ad-daliad

Mae’n ddrwg gennym na allwch chi fynychu eich cwrs yn Nhŷ Newydd erbyn hyn.

Mae ein Telerau ac Amodau Archebu yn ddilys ar gyfer po archeb a wneir ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Cyrsiau Blasu Digidol

  • Mae taliad llawn o £12 yn ddyledus ar gyfer pob archeb er mwyn cadw eich lle, heblaw y nodir yn wahanol ar ddisgrifiad y cwrs. Nid ydym yn ad-dalu nac yn trosglwyddo blaendal i gyrsiau eraill.
  • Os ydych yn canslo eich lle o fewn 6 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs, bydd y balans ond yn cael ei ddychwelyd i chi (minws y blaendal) pe byddai’r cwrs yn llawn dop, a’ch lle felly yn cael ei lenwi.
  • Rydym yn awgrymu yn gryf y dylai bob cwsmer drefnu yswiriant personol i ofalu am ddigwyddiadau annisgwyl a all olygu fod cwsmer yn colli ffi neu arian. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod yr yswiriant a brynir yn addas i’r pwrpas.

Cyrsiau Undydd

  • Mae taliad llawn o £35 yn ddyledus ar gyfer pob archeb er mwyn cadw eich lle, heblaw y nodir yn wahanol ar ddisgrifiad y cwrs. Nid ydym yn ad-dalu nac yn trosglwyddo blaendal i gyrsiau eraill.
  • Os ydych yn canslo eich lle o fewn 6 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs, bydd y balans ond yn cael ei ddychwelyd i chi (minws y blaendal) pe byddai’r cwrs yn llawn dop, a’ch lle felly yn cael ei lenwi.
  • Rydym yn awgrymu yn gryf y dylai bob cwsmer drefnu yswiriant personol i ofalu am ddigwyddiadau annisgwyl a all olygu fod cwsmer yn colli ffi neu arian. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod yr yswiriant a brynir yn addas i’r pwrpas.

Cyrsiau Preswyl

  • Mae blaendal o £100 yn ddyledus ar gyfer pob archeb i gadw eich lle, heblaw y nodir yn wahanol ar ddisgrifiad y cwrs. Nid ydym yn ad-dalu nac yn trosglwyddo blaendal i gyrsiau eraill.
  • Mae’r balans llawn yn ddyledus 6 wythnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs. Os ydych yn canslo eich lle o fewn 6 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs, bydd y balans ond yn cael ei ddychwelyd i chi (minws y blaendal) pe byddai’r cwrs yn llawn dop, a’ch lle felly yn cael ei lenwi.