I gyflawni hyn, rydym wedi adnabod tair blaenoriaeth lle byddwn yn canolbwyntio’n gwaith a’n buddsoddiad, a rheiny’n ceisio ysgogi newid mewn cymdeithas drwy lenyddiaeth:
Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb – Datblygu sector sy’n cefnogi mynediad teg i bawb drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol
Iechyd a Llesiant – Cefnogi llesiant unigolion a chymunedau, gan ddefnyddio llenyddiaeth fel grym iachaol i gryfhau gwasanaethau
Argyfwng Hinsawdd – Defnyddio creadigrwydd i addysgu, archwilio a herio, gan wella ymwybyddiaeth pobl o’r argyfwng hinsawdd ac ysgogi newid er gwell
Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig, a cawn ein hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn gweithio yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog ledled Cymru. Lleolir ein swyddfeydd yn Llanystumdwy ac yng Nghaerdydd.
Mae Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2022-2025 ar gael i’w ddarllen yma.