Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau 2017
Llu 10 Hydref 2016 / Ysgrifennwyd gan Miriam Williams

Seiniwch yr utgyrn i bedwar ban byd; mae‘n rhaglen gyrsiau ar gyfer 2017 bellach yn fyw. Yn dilyn misoedd lu o ebyst, galwadau ffôn, llythyrau (a rhai colomenod), rydym wrth ein boddau o gael rhannu’r arlwy artistig sydd wedi ei baratoi ar eich cyfer yn Nhŷ Newydd 2017.

Mae’r rhaglen yn cynnig cymysgedd o gyrsiau ac encilion diwrnod, penwythnos ac wythnos o hyd sy’n addas ar gyfer egin awduron yn ogystal â’r profiadol. Â hithau’n Flwyddyn Chwedlau yng Nghymru, bydd sawl cwrs yn dilyn trywydd hen hanesion y tir, yn ail-ddychmygu straeon cyfarwydd y tylwyth teg ac yn arbrofi â swyn geiriau.

Ymysg uchafbwyntiau’r cyrsiau Cymraeg y mae ymdrochiad ym myd chwedlau ddoe a heddiw yng nghwmni Mair Tomos Ifans; cwrs Ysgrifennu Stori gyda Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros; arweiniad ar ysgrifennu i bapurau bro gyda Lowri Haf Cooke; cyrsiau ysgrifennu creadigol ar gyfer dysgwyr Cymraeg; a bydd y Cwrs Cynganeddu yn dychwelyd mewn partneriaeth â Barddas dan arweiniad Twm Morys ac Eurig Salisbury, ar ôl début hynod lwyddiannus yng ngwanwyn 2016.

Bydd Gŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd hefyd yn dychwelyd ar benwythnos 17 – 19 Chwefror, ac fe gyhoeddir rhagor o gyrsiau a dosbarthiadau Cymraeg yng ngwanwyn a hydref 2017 yn dilyn cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n’Og, prif wobrau’r Eisteddfodau, a rhestrau Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Bydd digon o gyfle i awduron Cymraeg a Saesneg weithio ochr yn ochr mewn sawl genre, gyda Menna Elfyn a Paul Henry yn arwain penwythnos o gyfieithu cerddi; yr awdur Francesca Rhydderch yn cydweithio â Mavis Cheek i diwtora cwrs ffuglen; cwrs Ysgrifennu Gwaith Ffeithiol-Greadigol dan arweiniad yr awduron Horatio Clare a Jon Gower; a chwrs gyda Jay Griffiths ac Angharad Wynne yn cyfuno crwydro llwybrau hudolus Llŷn ac Eryri gydag ysgrifennu am dirwedd. Bydd prosiect dwyieithog Llenyddiaeth er Iechyd a Lles Tŷ Newydd yn parhau gyda chwrs Ysgrifennu ac Ymwybyddiaeth Ofalgar (mindfulness) gyda’r therapyddion barddoniaeth Mariel Jones a Jill Teague ac wythnos o Yoga ac Ysgrifennu dan arweiniad Siân Melangell Dafydd a gwesteion arbennig.

Os am arbrofi ymhellach, cynigir amrywiaeth eang o bynciau ac arddulliau trwy gyfrwng y Saesneg yn cynnwys Taith y Nofel gyda’r awduron o Gaerdydd, Kate Hamer, a ysgrifennodd The Girl in the Red Coat (Faber & Faber), a Holly Müller; Ysgrifennu Cerddi gydag enillydd gwobr T S Elliot, George Szirtes, a’r bardd Deryn Rees-Jones; a chwrs Ysgrifennu a Chreu Celf gyda Pamela Robertson-Pearce ac Annie Freud. Yn ogystal, bydd Gillian Clarke, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, a’r Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy yn ôl i arwain Dosbarth Meistr Barddoniaeth, a bydd yr Encil Adrodd Straeon poblogaidd yn dychwelyd, yn ogystal â chwrs blasu i chwedleuwyr newydd.

Mae’r rhestr o’r darllenwyr gwadd yn llawn o gewri’r byd llenyddol unwaith eto eleni gan gynnwys yr awdur a’r dramodydd A.L.Kennedy; y bardd a’r darlledwr Ian McMillan; Tessa Hadley; Patrick Gale; seren y byd perfformio barddoniaeth, Luke Wright, a’r artist a’r bardd Imtiaz Dharker.

Os nad ydi hyn yn ddigon i wneud chi wenu, i ddathlu cyhoeddi rhaglen 2017, mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig gostyngiad o 10% oddi ar bris y cyrsiau preswyl tan 31 Ionawr 2017 gyda’r cod TN2017.

Cliciwch yma i weld y cyrsiau ar ein gwefan, ond cofiwch gysylltu pe bai well gennych chi gael copi brint.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dŷ Newydd yn fuan; y lle perffaith i gychwyn ar eich stori.