Cwrs Undydd: Ffotograffiaeth a Llenyddiaeth

Sad 8 Mehefin 2024
Tiwtor / Gareth Evans-Jones
Ffi’r Cwrs / O £35 y pen
Genres / BarddoniaethFfeithiolFfuglen
Iaith / Cymraeg

Oes yna berthynas rhwng ffotograffiaeth a llenyddiaeth? Sut mae ymateb drwy dynnu llun i le yn gallu dylanwadu ar ein hymateb llenyddol? Oes modd inni greu llenyddiaeth sy’n sefyll ar ei phen ei hun ac eto’n gallu bod yn gysylltiedig â ffotograff o le neu beth neu berson?

Dyma gyfle i arbrofi gyda ffurf a gweld sut mae tynnu lluniau, boed efo camera ar eich ffôn, camera polaroid, neu gamera ‘proffesiynol’, yn gallu ysbrydoli darn o lenyddiaeth. Mae’r berthynas rhwng gair a golygfa sy’n cael ei dal mewn llun yn un hynod, ac fel rhan o’r cwrs, bydd cyfle ichi grwydro i’r lluniau a dynnir gennych chi a gan eraill a gweld beth sy’n codi ohonyn nhw, yn gerddi, yn llên feicro, yn stori fer, yn nofel, neu’n ddarn o lenyddiaeth heb unrhyw label gonfensiynol.

Does dim rhaid ichi fod yn ffotograffydd o fri o gwbl i fynychu’r cwrs yma – dim ond ag awydd rhoi cynnig ar drywydd penodol, ac efallai un gwahanol i’r hyn rydych yn arfer ei ddilyn, i greu gwaith newydd. Dewch yn llu i weld beth fydd yn codi o’ch lluniau yn Llanystumdwy a thu hwnt!

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, ac i’r rheiny sydd eisoes â pheth profiad. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2024 yn addas i chi, <cysylltwch â ni> am sgwrs anffurfiol.

 

Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Gareth Evans-Jones

Mae Gareth Evans-Jones yn ddarlithydd Athroniaeth ac Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor ynghyd â bod yn llenor. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn, 2018), ac Y Cylch (Gwasg y Bwthyn, 2023). Enillodd ei gyfrol o lenyddiaeth a ffotograffau a ysbrydolwyd gan daith o amgylch Cymru, Cylchu Cymru (Y Lolfa, 2022), wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023, ac mae hefyd wedi ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (2019 a 2021). Golygodd y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth LHDTC+ yn y Gymraeg, Curiadau (Cyhoeddiadau Barddas, 2023), ac mae’i waith barddonol wedi’i gyfieithu i Armeneg, Pwyleg, Ladaci a Saesneg. 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811