Encil Nofio Gwyllt

Gwe 17 Mai 2024 - Sul 19 Mai 2024
Tiwtor / Emma Senior (Wild Wales)
Ffi’r Cwrs / O £275 - £375 y pen
Iaith / Saesneg

Mewn partneriaeth â Wild Wales

Penwythnos epig yn archwilio rhai o fannau nofio gwyllt harddaf gogledd Cymru.

Gadewch eich plant gartref, trowch eich ffôn i ffwrdd ac ymgolli yn y dirwedd anhygoel hon. Byddwch yn aros yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mhentref Llanystumdwy ar lan yr afon Dwyfor.

Darperir yr holl brydau brydau bwyd o fewn y pris, gan gynnwys digon o gacennau i gadw’ch egni ar gyfer yr holl nofio.

Afonydd glân gloyw, rhaeadrau di-ri a llynnoedd tawel braf sy’n swatio ym mhocedi’r mynyddoedd. Byddwn yn nofio mewn o leiaf pum lleoliad gwahanol yn ystod y penwythnos.

Rydyn ni eisiau rhoi’r hyder i chi gynllunio’ch nofio gwyllt eich hun. Mae Nofio Gwyllt yn dda i’r enaid. Mae’r encil hwn yn addas ar gyfer oedolion yn unig.

Nid oes angen unrhyw git ffansi gwych, dim ond siwt nofio, tywel ac esgidiau i’w gwisgo yn y dŵr. Efallai y byddwch yn dymuno dod â dryrobe, ond mae hynny fyny i chi yn llwyr.

Tiwtor

Emma Senior (Wild Wales)

Mae Emma yn byw ac yn gweithio yma yn Eifionydd, ac mae wedi bod yn arwain grwpiau o bobl yn yr awyr agored ers dros 20 mlynedd. Mae hi wedi cymwyso fel Arweinydd Mynydd ac yn Achubwr Bywyd Dŵr Agored, gyda llwyth o wybodaeth a phrofiad lleol. Mae hi wrth ei bodd yn rhannu'r gorau o'r hyn sydd gan Eryri i'w gynnig, boed yn dirweddau eiconig neu'n guddfannau epig. Pan nad yw hi tu allan yn arwain grwpiau mi ddewch o hyd iddi yng nghanol y mynyddoedd gyda’i theulu a’i chwn - a diolch byth, maen nhwythau hefyd wrth eu bodd hefo'r dŵr!

www.explorewildwales.co.uk

Facebook: Wild Wales

Instagram: @wildwales_

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811