Ysgrifennu Ffuglen i Bobl Ifanc

Gwe 21 Mehefin 2024 - Sul 23 Mehefin 2024
Tiwtoriaid / Megan Angharad Hunter & Manon Steffan Ros
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / FfuglenYsgrifennu i Blant a Phobl Ifainc
Iaith / Cymraeg

Sut mae dod o hyd i’r syniad a fydd yn bachu yn eich darllenwyr? Sut mae strwythuro, creu cymeriadau a chyfleu emosiwn? Sut mae penderfynu pa themâu ac iaith sy’n berthnasol i’ch cynulleidfa? Sut mae cyflwyno themâu dyrys a heriol i gynulleidfaoedd ifanc heb eu nawddogi nac eu brawychu? Ymunwch â’r awduron arobryn, Megan Hunter a Manon Steffan Ros am benwythnos arbennig o ysgrifennu, trafod, archwilio, herio, a mwynhau.

Gyda thasgau ysgrifennu amrywiol, sesiynau adborth mewn grwpiau bach a chyfleoedd i rannu gwaith mewn gofod saff a chefnogol, byddwch yn mynd adref gyda syniadau newydd, dealltwriaeth glir o’ch llais, a thân yn eich bol i ddal ati. Byddwch yn trafod sut i ffurfio cymeriadau cymhellol a chredadwy, sut i ysgrifennu deialog gref a sut i saernïo stori a fydd yn aros gyda’ch darllenwyr ymhell ar ôl iddynt droi’r dudalen olaf. Efallai mai megis dechrau prosiect ydych chi, neu eich bod hanner ffordd ac angen hwb i’ch hyder. Y naill ffordd neu’r llall, fe fydd y cwrs hwn yn gefn ac yn ysbrydoliaeth i chi.

Tiwtoriaid

Megan Angharad Hunter

Mae Megan Angharad Hunter yn awdur a sgriptiwr o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ers derbyn gradd mewn Cymraeg ac Athroniaeth yn 2022, mae hi wedi bod yn gweithio fel awdur a golygydd llyfrau plant. Mae hi wedi ysgrifennu dwy nofel ar gyfer oedolion ifanc: cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, tu ôl i’r awyr (Y Lolfa), yn 2020 cyn ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn, ac fe gyhoeddwyd Cat fel rhan o gyfres arobryn Y Pump (Y Lolfa, 2021). Yn fwy diweddar, bu’n cyd-gydlynu cwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer awduron a/Anabl efo’r bardd Bethany Handley, ac yn 2023 fe gafodd gyfle gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau i gymryd rhan mewn gŵyl lenyddol yn India cyn trafod hygyrchedd yn y diwydiant cyhoeddi yn Ffair Lyfrau Llundain. Cyhoeddwyd Astronot yn yr Atig (Y Lolfa), ei nofel gyntaf i blant ym mis Hydref 2023. Y themâu amlycaf yn ei gwaith yw iechyd meddwl, a/Anabledd a rhywioldeb ac mae hi hefyd yn gwirfoddoli'n achlysurol efo Llamau, elusen sy’n darparu llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd. 

 

 

Manon Steffan Ros

Manon Steffan Ros

Mae Manon Steffan Ros wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Cychwynnodd ei gyrfa ym myd y ddrama fel actores, ac enillodd Fedal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 a 2005. Enillodd Wobr Tir na n-Og bum gwaith, yn fwyaf diweddar yn 2020 am y llyfr Pobol Drws Nesaf (Y Lolfa) a gyd-ysgrifennodd â’r darlunydd Jac Jones. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 gyda’i chyfrol boblogaidd Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa), ac fe aeth ymlaen i ennill y wobr driphlyg yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019. Addaswyd Llyfr Glas Nebo i ddrama lwyfan gan gwmni’r Frân Wen, a cafodd hefyd ei chyfieithu i sawl iaith. Mae Manon yn cyfrannu ysgrif wythnosol i gylchgrawn Golwg. Enillodd ei chyfieithiad, The Blue Book of Nebo (Firefly, 2022), Fedal Yoto Carnegie 2023. 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811