logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Amdanom ni
    • Tŷ Newydd
    • Y Tŷ
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Ysgolion
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Amdanom ni
    • Tŷ Newydd
      • Tîm Tŷ Newydd
      • Oriel
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Dewch o hyd i ni
    • Y Tŷ
      • Hanes
      • Llety
        • Opsiynau Llety
      • Hygyrchedd
      • Llogi Tŷ Newydd
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Ysgolion
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru

Cyrsiau Digidol Tŷ Newydd

Cyrsiau Digidol Tŷ Newydd: Sut maent yn gweithio?

 

Bydd ein cyrsiau digidol newydd yn rhoi cyfle i awduron yng Nghymru a thu hwnt gymryd rhan ar un o gyrsiau ysgrifennu creadigol enwocaf Tŷ Newydd o’ch cartrefi clyd. Wedi’u lansio yn ystod y cyfnod clo yn 2020, mae’r cyrsiau digidol yn gyfle i awduron na all deithio i Dŷ Newydd gael eu harwain gan awduron enwog mewn ffurf sy’n adlewyrchu cwrs preswyl go-iawn.

 

Cyflwynir y gweithdai hyn ar y platfform fideo, Zoom. Bydd angen i chi gael mynediad da i’r rhyngrwyd er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn, ac rydym yn eich cynghori i roi cynnig ar Zoom cyn archebu lle ar y cwrs er mwyn sicrhau bod popeth yn gweithio.

 

Byddwn yn derbyn hyd at 10 unigolyn ar ein cyrsiau er mwyn sicrhau bod pawb yn derbyn digon o sylw yn ogystal ag adborth ungiol.

Bydd pob cwrs yn wahanol, a byddwch yn derbyn amserlen fanwl i’ch arwain drwy’r wythnos. Fodd bynnag, bydd mwyafrif y cyrsiau’n dilyn amserlen cyffelyb i’r isod:

 

Dydd Llun

3.00 pm – 4.30 pm: Sesiwn ragarweiniol a’r awduron i osod tasg ysgrifennu.

Gyda’r nos: Amser rhydd i weithio ar eich tasg ysgrifennu

 

Dydd Mawrth

10.00 am – 12.30 pm (gyda thoriad i gael paned yn y canol): Gweithdy

2.00 pm – 5.00 pm: Y tiwtoriaid i gynnal sgyrsiau un-i-un gyda’r awduron. Darperir amserlen ar ddechrau’r cwrs.

8.00pm – 9.00pm – Darlleniad gan y tiwtoriaid ar eu gwaith eu hunain, gyda sesiwn cwestiwn ac ateb i ddilyn.

 

Dydd Mercher

10.00 am – 12.30 pm (gyda thoriad i gael paned yn y canol): Gweithdy

2.00 pm – 5.00 pm: Y tiwtoriaid i barhau i gynnal sgyrsiau un-i-un.

8.00 pm – 9.00 pm – Darlleniad gan ddarllenydd gwadd gyda sesiwn cwestiwn ac ateb i ddilyn.

 

Dydd Iau

10.00 am – 11.00 pm – Gweithdy gydag un tiwtor

11.30 am – 12.30 pm – Gweithdy gyda’r tiwtor arall

2.00 pm – 5.00 pm – Y tiwtoriaid i barhau i gynnal sesiynau un-i-un.

Gyda’r nos: Amser rhydd i ysgrifennu / ymlacio

 

Dydd Gwener

10.00 am – 11.30 am – Trafodaeth grŵp gyda’r tiwtoriaid am y grefft o ysgrifennu, y diwydiant a’r gweithdai.

2.00 pm – 5.00 pm – Y tiwtoriaid i barhau i gynnal sesiynau un-i-un.

8.00 pm – 9.30 pm – Dathliad fel grŵp a darlleniadau o’r gwaith a ysgrifennwyd yn ystod yr wythnos.

 

Gweithgareddau Ychwanegol

Yn ystod y prynhawn, bydd blwch sgwrsio Zoom – neu Lyfrgell rhithiol Tŷ Newydd yn agored i chi sgwrsio gyda’ch cyd-awduron. Bydd aelod o staff Llenyddiaeth Cymru yn bresennol am amser pendodedig i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein cyfleoedd i awduron.

Mae’n debyg bod rhai o gyn-fynychwyr cyrsiau Tŷ Newydd yn cofio bwyd bendigedig ein cogydd preswyl, Tony. Mae rhai o’i ryseitiau ar gael ar ein blog, beth amdani – i chi gael blas go-iawn o Dŷ Newydd?

Ein Cyrsiau

Defnyddio Lle fel Ysbrydoliaeth
Sul 19 Chwefror 2023
Tiwtoriaid / Siôn Aled, Sian Northey
Gweld Manylion
Ysgrifennu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
Sad 4 Mawrth 2023
Tiwtor / Bethan Gwanas
Gweld Manylion
Encil Yoga y Gwanwyn


Wedi gwerthu i gyd

Tiwtor / Richard Fowler
Gweld Manylion

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Crëwyd gan Creo
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo