Wedi ei adeiladu yn y bymthegfed ganrif, mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II* â hanes cyfoethog iawn. Fe’i adwaenir fel cartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George, ac mae wedi gweld sawl teulu yn croesi ei aelwyd dros y canrifoedd. Mae’r treftadaeth yn atsain drwy ystafelloedd Tŷ Newydd.
Mae gan y tŷ ei hun chwe ystafell wely, dwy lyfrgell, ystafell fwyta fawr, hen gegin a thŷ haul. Dyma hefyd lle mae’r swyddfa wedi ei lleoli. Mae adeilad allanol Tŷ Newydd, Hafoty, yn cynnwys ystafelloedd y tiwtoriaid, a chwe ystafell ychwanegol i ymwelwyr. Mae hefyd yn cynnwys cilfach ysgrifennu glyd. Mae’r awyrgylch yma yn Nhŷ Newydd yn anffufiol ac yn hamddenol, ac mewn adborth dywed pobl yn gyson pa mor hanfodol yw hyn i’w creadigrwydd.
Pan fyddwch yn aros gyda ni, Tŷ Newydd fydd eich gofod creadigol, eich cartref lle gallwch ymlacio a rhannu syniadau gyda’ch cyd-ysgrifennwyr. Ail ddyluniwyd y gerddi sy’n edrych dros Fae Ceredigion gan y pensaer enwog Syr Clough Williams-Ellis yn y 1940au, ac mae’n darparu’r lleoliad perffaith i chi ysgrifennu mewn tawelwch heddychlon.