A’i chi fydd yn cipio’r Daniel Owen neu’r Fedal Ryddiaith nesaf?
Mer 9 Ionawr 2019 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Y tymor hwn, yn ychwanegol i’n rhaglen gyrsiau undydd arferol, bydd cyfres o gyrsiau yn benodol ar gyfer ysgrifennu rhyddiaith ar gyfer cystadlaethau’r Eisteddfod.

Dyma gyfres o dri chwrs yng ngofal cyn-enillwyr a chyn-feirniaid y ddwy wobr nodedig yma: Guto Dafydd, a enillodd Y Goron yn Eisteddfod Llanelli 2014 a Gwobr Goffa Daniel Owen 2016; Angharad Price, a gipiodd Y Fedal Ryddiaith yn 2002; a Manon Rhys, a enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 2011 a’r Goron yn 2015.

Ydych chi â’ch bryd ar yrru eich gwaith i un o gystadlaethau rhyddiaith mawr yr Eisteddfod? Beth yw’r heriau o fynd ati i ysgrifennu ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen neu’r Fedal Ryddiaith? Beth yn union y mae’r beirniaid yn chwilio amdano? Cewch yr holl atebion, a mwy, ar y cyrsiau yma:

 

Rhyddiaith – Cychwyn Arni

Tiwtor: Guto Dafydd

Dyddiad: 23 Chwefror 2019

Ffi: £35.00

 

Rhyddiaith – Dal Ati

Tiwtor: Angharad Price

Dyddiad: 2 Mawrth 2019

Ffi: £35.00

 

Rhyddiaith – Mireinio eich Gwaith

Tiwtor: Manon Rhys

Dyddiad: 13 Ebrill 2019

Ffi: £35.00

 

Bydd pob cwrs yn wahanol ac yn sefyll ar ei draed ei hun. Bydd y tri tiwtor yn cynnig rhywbeth gwahanol gan roi cyngor, arweiniad ac ysbrydoliaeth i chi barhau i ymgeisio neu gychwyn arni. Wrth gwrs, nid oes rhaid i chi fod a’ch bryd ar gystadlu mewn unrhyw Eisteddfod i fynychu, nac i elwa, o’r cyrsiau hyn.

Mae gostyngiad o £15.00 os fyddwch chi’n archebu’ch lle ar y tri cwrs. Defnyddiwch y cod Eisteddfod15 wrth archebu ar y wê.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811

Trefnir y cyrsiau hyn mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol.